Datblygu a gwerthuso ymyriadau mewn gofal dementia
Pecyn Gwaith 5
Bydd y pecyn gwaith yma yn canolbwyntio ar weithredu ymyriadau seicogymdeithasol seiliedig ar dystiolaeth gyda phobl sydd â dementia a chlefydau niwroddirywiol a’u cefnogwyr - beth yw’r ysgogiadau a’r rhwystrau wrth ymateb i ganfyddiadau ymchwil? Sut mae modd hwyluso’r broses o roi'r canfyddiadau yma ar waith?
Bydd hefyd yn canolbwyntio ar gynyddu ymwybyddiaeth o ymchwil ymysg oedolion hŷn yng Nghymru a’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Ymysg y Gweithgareddau Craidd ble byddwn yn defnyddio adnoddau'r pecyn gwaith yma mae:
- Datblygu ymchwil a chynyddu ymwybyddiaeth o ymchwil drwy ‘Join Dementia Research’.
- Datblygu ymarfer
- Mentora Ymchwilwyr sydd ar Ddechrau eu Gyrfa (ECRs) a Doethuriaethau (PhDs)
Ymysg deilliannau'r pecyn gwaith yma bydd:
- Ennill mwy o grantiau.
- Adolygiad systematig o therapïau hel atgofion a wnaed ar gyfer Cydweithrediad Cochrane
- Cyhoeddiadau sy'n creu argraff
- Datblygu ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa a chymrodorion
- Nifer y bobl yng Nghymru sy'n ar ‘Join Dementia Research’
- Cydweithredu gyda busnes a diwydiant i hwyluso'r gwaith o ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau
- Seminarau a chynadleddau wedi eu targedu at staff GIG a gofal cymdeithasol
- Astudiaeth achos ar wella iechyd a lles oedolion hŷn drwy ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Astudiaeth achos o newidiadau i wasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n dod o ymchwil.
Manylion Arweinydd y Pecyn Gwaith |
Professor Bob Woods, Dementia Services Development Centre Wales - Bangor University |