Join Dementia Research
Gwybodaeth am Join Dementia Research
Mae Join Dementia Research yn helpu pobl â dementia, eu cefnogwyr a theuluoedd (gofalwyr di-dâl,) neu unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil dementia i gael eu paru ag astudiaethau ymchwil sy'n digwydd yn eu hardal.
Rheolir JDR gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer, Alzheimer's Research UK ac Alzheimer Scotland. Mae JDR yn helpu i recriwtio pobl i astudiaethau dementia sy'n digwydd ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hyd yma, mae 49,518 o bobl wedi ymuno â JDR, gyda dros 1500 o wirfoddolwyr o Gymru.
Mae'r astudiaethau sydd ar gael yn gymysgedd o dreialon clinigol, eraill sy'n ceisio gwella dealltwriaeth o ofal ac ymarfer cymorth, ac edrych i mewn i gysylltiadau rhwng ffordd o fyw a risg o ddementia.
Mae gan bob un o'r astudiaethau gymeradwyaeth foesegol (lle mae pwyllgor moeseg annibynnol yn adolygu gwaith eu hymchwilwyr). Golyga hyn bod astudiaethau wedi'u cynllunio'n dda, ac yn amddiffyn hawliau, diogelwch a llesiant cyfranogwyr ymchwil.
Pam y byddwn i’n ymuno?
Mae llawer o bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil dementia yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i wneud gwahaniaeth.
I bobl â dementia, mae cymryd rhan mewn ymchwil yn aml yn eu helpu i gael gwell dealltwriaeth o'u cyflwr ac i gael monitro eu hiechyd yn agosach. Mae llawer yn ei ddarganfod yn brofiad cadarnhaol iawn ac yn teimlo eu bod yn gwneud cyfraniad gwerth chweil at ddyfodol gofal, cefnogaeth a thriniaeth o ddementia.
Gall unrhyw un dros 18 mlwydd oed ymuno. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia a’r rheiny sydd heb; gallwch gofrestru ar ran rhywun arall (cyhyd â bod gennych eu caniatâd). Nid oes rheidrwydd arnoch i gymryd rhan mewn ymchwil, dim ond cofrestru eich diddordeb ydych chi.
I grynhoi, mae modd i chi gymryd rhan mewn ymchwil dementia hanfodol, cyrchu cyfleoedd ymchwil i bobl â dementia a’r rheiny heb dementia, (gofalwyr neu gefnogwyr di-dâl,) a helpu gweithwyr proffesiynol i ddod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer ymchwil.
Sut ydw i’n cymryd rhan?
Ewch i wefan Ymuno ag Ymchwil Dementia,
Neu ffoniwch Llinell Gymorth JDR ar 0333 150 3456
Helpwch i guro dementia trwy gofrestru heddiw.