News Info

Sioe Deithiol Byw yn Hwy, Gweithio’n Hwy

Sioe Deithiol Byw yn Hwy, Gweithio’n Hwy

13 Rhagfyr, 2018

Mae nifer y gweithwyr yng Nghymru dros 50 oed wedi codi bron i chwarter yn ystod y degawd diwethaf. Mewn cyferbyniad, mae nifer y bobl iau yn y gweithlu wedi gostwng yn ystod y cyfnod yma. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yma’n nifer y gweithwyr hŷn, mae Cymru’n parhau i gael un o'r cyfraddau cyflogaeth isaf ar gyfer gweithwyr hŷn o gymharu â gweddill y DU (gweler ffigur 1).

 

Graph-MH-roadshows.JPG

Mae'r cyfuniad yma o weithlu sy'n heneiddio, er yn gyfraddau cyflogaeth isel, wedi arwain at yriad gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o'r angen i hyfforddi, cadw a recriwtio gweithwyr hŷn. Trwy CADR, rydym wedi bod yn rhan o'r ymgyrch 'Dyddiad ar ei Orau Cyn' yma’n ogystal â chymryd rhan weithredol yn y Fforwm Cynghori Gweinidogion ar y pwyllgor Heneiddio ar Baratoi ar gyfer y Dyfodol. Er mwyn sicrhau bod y materion sy'n wynebu gweithwyr hŷn yng Nghymru yn cael eu clywed yn y grwpiau hynod bwysig yma rydym yn trefnu nifer o sioeau teithiol ledled Cymru. Un o'r syniadau allweddol y tu ôl i hyn oedd gwrando ar brofiadau a syniadau gweithwyr hŷn o amrywiaeth eang o alwedigaethau a lleoliadau ledled y wlad. Un o'n pryderon yw nad oes polisi 'un-maint-i-bawb' ar gyfer gweithwyr hŷn a bod angen i wneuthurwyr polisi werthfawrogi'r ystod o wahanol swyddi y mae gweithwyr hŷn yn eu gwneud a'r gwahanol heriau a chyfleoedd y maent yn eu hwynebu. Yn union fel mae gwahaniaethau rhanbarthol yn y DU gyfan, mae yna hefyd wahaniaethau yng Nghymru. Er enghraifft, mae cyfradd cyflogaeth gweithwyr hŷn yn llawer is yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd (66%) nag yng nghanolbarth Cymru (75%).

Fe wnaethom redeg pedair sioe deithiol ym mis Hydref eleni, un yn Nyffryn y Rhondda, un yn y Rhyl, un ym Mhorthmadog a'r un olaf yn Abertawe. Fe wnaethom wahodd unrhyw un 50 oed a throsodd, p'un a oeddent yn gweithio ai peidio, i ddod draw a dweud eu straeon wrthym, yn gadarnhaol ac yn negyddol am weithio’n hwyrach mewn bywyd. Cefais fy ngorlethu gan ymateb pobl. Cawsom nifer o gyfarfodydd arbennig o fawr yn y Rhondda (a hoffwn ddiolch i bawb wnaeth ein helpu ni i'w trefnu) ac Abertawe. Ond hyd yn oed mewn lle ble roedd llai o bobl wedi mynychu, roedd pŵer eu straeon yn gryf. Roedd llawer o'r hyn yr oedd pobl yn ei ddweud wrthym yn anodd ei glywed. Roedd ymdeimlad cyffredinol bod pethau'n anodd ac yn mynd yn fwy llym i weithwyr hŷn, yn enwedig y rheini a oedd yn dod allan o'r gwaith, yn aml oherwydd cau ffatri, ac a oedd am ddychwelyd i'r gwaith. Roedd anhawster wrth fynd i'r gwaith ac oddi yno yn thema fawr, nid yn unig i'r rheini sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus ond i'r rheini â chyfrifoldebau gofalu hefyd. Roedd diffyg ymwybyddiaeth am y materion sy'n wynebu gweithwyr hŷn ymhlith staff canolfannau gwaith yn fater arall, a oedd yn aml yn arwain at bobl i roi'r gorau i fynychu a cholli eu budd-daliadau diweithdra. Mewn rhai achosion eithafol clywsom am wahaniaethu ar sail oedran amlwg gan recriwtiaid a oedd yn dweud wrth weithwyr yn syml eu bod yn 'rhy hen' ar gyfer y swydd. Yn amlwg, mae angen mynd i'r afael â’r materion yma. Ond clywsom hefyd storïau positif, o bobl a oedd yn awyddus i ddefnyddio eu sgiliau crefft i sefydlu busnes uwch-gylchu neu’r posibilrwydd o ailosod hen ganolfannau cymunedol i ganolfannau gwaith anghysbell mewn ardaloedd gwledig.

Roedd hyn yn brofiad gwerth chweil, ond heriol, ac rydym yn chwilio am ddull o barhau i weithio gyda'r cymunedau yma fel rhan o CADR yn ogystal â chynnal mwy o sioeau teithiol mewn rhannau eraill o'r wlad yn y flwyddyn sydd i ddod. Byddai'n wych pe fyddech yn medru ymuno â ni.

‹ Nôl